Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 29 Ebrill 2019

Amser: 13.31 - 15.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5462


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David Rees AC (Cadeirydd)

Alun Davies AC

Huw Irranca-Davies AC

Delyth Jewell AC

Mark Reckless AC

Suzy Davies AC (yn lle David Melding AC)

Mike Hedges AC (yn lle Joyce Watson AC)

Tystion:

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Simon Brindle, Llywodraeth Cymru

Des Clifford, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Alun Davidson (Clerc)

Claire Fiddes (Dirprwy Glerc)

Elisabeth Jones (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth David Thomas (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Mike Hedges ar ei rhan.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding. Dirprwyodd Suzy Davies ar ei ran.

1.4        Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan mai ef yw cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr Irranca-Davies i beidio â gofyn cwestiynau a oedd yn ymwneud â'r rôl hon.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru

2.1 Ymatebodd y Prif Weinidog i gwestiynau gan yr Aelodau.

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

</AI3>

<AI4>

3.1   Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch Dadansoddiad Fframweithiau Cyffredin y DU - 4 Ebrill 2019

3.1.1   Cytunodd yr Aelodau i dderbyn cynnig y Gweinidog Brexit o friff technegol ar Fframweithiau Cyffredin gan swyddogion.

3.1.2   Nodwyd y papur.

</AI4>

<AI5>

3.2   Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor - 12 Ebrill 2019

3.2.1 Nodwyd y papur.

</AI5>

<AI6>

3.3   Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd o ran cytundebau rhyngwladol - 18 Ebrill 2019

3.3.1 Nodwyd y papur.

</AI6>

<AI7>

3.4   Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y paratoadau ar gyfer Brexit yng Nghymru - 23 Ebrill 2019

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

</AI7>

<AI8>

3.5   Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU - Adroddiad MADY Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 25 Ebrill 2019

3.5.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Gweinidog i geisio sicrwydd pellach ar gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach.

3.5.2 Nodwyd y papur.

 

 

</AI8>

<AI9>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

5       Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru - trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI10>

<AI11>

6       Ystyried ymateb i'r ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor

6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Prif Weinidog i gadarnhau eu hymrwymiad i gydweithredu er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn gallu dod i'r Pwyllgor pan fydd angen.

</AI11>

<AI12>

7       Craffu ar gytundebau rhyngwladol

7.1 Trafododd yr Aelodau y cytundebau a ganlyn:

·         Cytundeb parhad masnach UK-CARIFORUM

·         Cytundeb parhad masnach Gwlad yr Iâ-Norwy

·         Cytundeb Partneriaeth Wirfoddol y DU-Indonesia ar Orfodaeth Cyfraith Coedwigoedd, Llywodraethu a'r Fasnach mewn Cynhyrchion Pren

·         Cytundeb y DU-Belarws ynghylch Cludo Cerbydau Modur Rhyngwladol

7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad o'i ddatganiad ar gyfrifoldeb am bolisi coedwigaeth yn y DU. 

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>